Cerddor oedd Elin cyn hyfforddi mewn homeopatheg, a phwt o fardd yn ei hamser sbâr. Cafodd hefyd flynyddoedd o brofiad yn adrodd chwedlau a chynnal gweithdai barddoniaeth i blant ledled y wlad, gan roi golwg ddyfnach iddi ar ystyr iechyd a moddion.

 

Mae'r awen yn dal i gynnal ei gwaith, ond nid ar awyr iach a cherddi yn unig y bydd byw dyn!  Mae Elin yn pwysleisio pwysigrwydd bwyd da a chymdogaeth ofalus ochr yn ochr ag unrhyw fath o feddyginiaeth.  I'r perwyl yma, mae gwahoddiad i ni i gyd rannu doethineb Bys yn y Potes (sef fersiwn Gymraeg o ddosbarth G.A.P.S.TM - gweler yr adran adnoddau) neu i ymuno efo criw H.A.W.L.* er mwyn sicrhau fod iaith a diwylliant y pridd yn ffynnu. 

 

Mae triniaeth homeopathig ac egwyddorion G.A.P.S.TM** yn medru gweithio yn benigamp ar y cŷd, a bob dydd, mae Elin a dwsinau o deuluoedd G.A.P.S.TM yn torchi llewys er mwyn adfer iechyd plant.  Ar ddechrau eu triniaeth, mae nifer o'r plant hynny yn brin o iaith a lleferydd, a'r rhieni yn ymdrechu'n ddi-flino i ddod o hyd i'r math o fwyd traddodiadol sy'n addas i gynnal iachâd.  Ar brydiau mae'r bwyd hwnnw yn anodd i'w gael yn lleol, ac Elin felly yn parhau i feithrin y grefft o gyfathrebu, a brodio'r bylchau yn ein sgwrs ni yma yng nghefn gwlad.

 

 

* Homeopathy at Wellie Level      /     ** Gut and Psychology Syndrome