Dydi triniaeth homeopathig hir-dymor ddim yn trin unrhyw salwch o safbwynt ei label confensiynol.  Yn lle hynny, mae Elin yn cynnig meddyginiaeth ar gyfer y person ei hun ac ar gyfer y ffordd mae pob unigolyn yn mynegi pa bynnag salwch sy'n ei boeni.  Rhan o waith homeopath ydi cynnal cryfderau y person crwn, cyfan, fel nad oes lle addas i afiechyd ddal gafael.   Ond er egluro hyn, mae'r cwestiwn 'be fedri di ei drin efo homeopatheg?' yn dal i gael ei ofyn.

 

Mae pob math o gyflyrau iechyd yn sbarduno pobl i ofyn am help gan Elin, fel tonsilitis, iselder ysbryd, adwythi dŵr sy'n gwrthod clirio, poenau nerfol, hanes o frest wan neu grydcymalau. Mae rhai yn dod ati hi oherwydd cyfuniad o broblemau fel clefyd siwgr, alergedd bwyd a thrafferthion croen.  Mae pobl eraill eisiau help i fedru galaru yn iach, neu gael trefn ar hormonau neu lefelau haearn, neu i fedru cysgu drwy'r nos heb gael hunllefau. Ym mhob un o'r achosion yma, bydd Elin yn dod i ddeall eich natur chi a chyflawnder eich cyfansoddiad, yn hytrach na meddwl yn gul a thrin y diagnosis yn unig.

 

Mae galw cyson am driniaeth homeopathig i fabanod a phlant a phobl ifanc, a hefyd i ddarpar rieni sydd eisiau bod mewn iechyd da cyn cychwyn teulu. Yn ystod beichiogrwydd, bydd Elin yn teilwra'r driniaeth i anghenion y fam a'r babi o fis i fis ac yn cynnig gwersi addas os oes cymar geni neu doula yn rhan o'r rhwydwaith gofal.  Mae'n syniad da cael sgwrs ymlaen llaw os ydych chi am i Elin fod yn bresennol ar ddechrau neu ar ddiwedd oes.

 

Yn aml iawn mae cleifion hefyd yn profi manteision y cyd-weithio sy'n bosib rhwng homeopatheg a thriniaethau confensiynol, er enghraifft tra'n mendio ar ôl llawdriniaeth, i hwyluso triniaethau deintyddol neu er mwyn lleddfu'r effeithiau annymunol sy'n medru codi weithiau yn sgîl ymyrraeth alopathig.