Logo
 

Homeopath ymysg beirdd, cantorion a'r werin bobl...

Homeopath ydw i wrth fy ngwaith bob dydd.   Mae hi'n fraint ydi cael bod yn gydymaith i bobl o bob math ar eu taith at well iechyd, beth bynnag mae hynny'n ei olygu iddyn nhw.  I mi fy hun, mae gwreiddiau a gwreiddioldeb yn un rhan hanfodol o gadw'n iach.   

Magwyd fi mewn ardaloedd diwylliannol gyfoethog, lle'r oedd 'y pethe' wrth galon cymdeithas.  Wrth gwrs, nid 'things' na 'matter' ydi unig ystyr 'pethe': gall hefyd gyfeirio at y patrymau anghyffyrddadwy hynny sy'n cynnig lliw ystyrlon i fywyd.  I unrhyw un sy'n gwerthfawrogi llawnder y llun yma, syniad gwirion ydi creu rhaniad artiffisial rhwng y celfyddydau a'r gwyddorau: mae'r egni neu'r awen a'r meddwl agored o fantais i bawb.

Yn ogystal â chael fy nhrwytho mewn cerddoriaeth, alawon gwerin, cynghanedd, cyfansoddi, adrodd a byd y chwedlau, cefais fy annog i diwnio'n ofalus, graff, i batrymau byd natur.  Dyma'r math o sylwi sy'n parhau i gyfoethogi fy mywyd a 'ngwaith creadigol heddiw. 

Tra'n astudio tuag at fy ngradd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Efrog, cefais fy nghyflwyno i fath arall ar gelfyddyd, un sydd hefyd yn ffurf ar feddyginiaeth ac sy'n dibynnu'n gryf ar fedru adnabod patrwm:  homeopatheg.  Dyma fy newis personol o ofal iechyd byth ers hynny, ac ers dau ddegawd rydw i yn homeopath proffesiynol fy hun.

Am wybodaeth bellach neu i drefnu apwyntiad, ewch i fy ngwefan gofal iechyd ElinHom.com.  A beth am ofyn y cwestiwn yma: beth fuaswn i, â 'mhotensial creadigol fy hun, yn ei wneud efo iechyd?