Mae'r wefan yma yn defnyddio un cwci er mwyn cofio eich dewis chi o iaith.  Ar wahân i hynny, nid yw gwefan www.elinalaw.com yn cywain gwybodaeth bersonol am ei darllenwyr.

 

Fel prynwr adnoddau addysgol, byddwch yn cael eich cyfeirio i wefan wahanol fydd o bosib yn cofnodi gwybodaeth bersonol sylfaenol fel eich enw a'ch cyfeiriad ebost. Mae'n bosib y cewch gynnig bod ar restr bostio achlysurol, a bydd modd dad-wneud y dewis.  Ni fydd Elin yn rhannu cyfeiriadau ebost o'r rhestr yma.

 

Os byddwch yn trefnu apwyntiad homeopatheg a / neu G.A.P.S.TM yna bydd Elin yn diogelu eich manylion personol, yn cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni a holiadur iechyd, am leiafswm o 7 mlynedd (neu am leiafswm o 7 mlynedd yn dilyn deunawfed pen-blwydd unrhyw blentyn dan ei gofal.) Yn ystod cyfnod y driniaeth, bydd eich manylion personol yn cael eu hastudio gan Elin er mwyn darparu presgripsiwn neu argymhellion dietegol ar eich cyfer.

 

Fel bo'r galw, bydd Elin yn dod i gysylltiad gyda'i chleifion drwy'r post, drwy alwad ffôn, drwy ebost neu ddull electronig arall. Fel un o'i chleifion, os byddwch yn dod i gysylltiad ag Elin drwy unrhyw ddull yn cynnwys ebost neu ddull electronig, fydd hi ddim yn datgelu eich gwybodaeth bersonol oni bai fod rheidrwydd cyfreithiol arni hi i wneud hynny, neu er mwyn gwarchod rhag twyll neu leihau'r risg o dwyll.