Er cyfforddusrwydd i bawb, plîs peidiwch â dod ag anifeiliaid anwes i'r clinig, triwch beidio cyrraedd yn gynnar (bydd hyn yn amharu ar driniaeth y person o'ch blaen) ac yn bendant iawn dim 'smygu na tharthu mwg yn yr adeilad. Diolch.

Rydw i ar gyfnod sabothol ar hyn i bryd. Os yn dymuno trefnu triniaeth homeopathig yn ystod fy amser i ffwrdd, yna cysylltwch â Heather Melville (Bangor ac arlein), Wendy Scrase (Bethesda ac arlein), Kay Woodward (Ynys Môn ac arlein) neu Holly Shrestha (Manceinion ac arlein).
Heather - heathermelville1@hotmail.com
Wendy - wendy.scrase@gmail.com
Kay - kaylouise1@live.co.uk
Holly – holly.shrestha@hotmail.co.uk
Am gyngor cyflym mewn achosion aciwt gallwch hefyd ffonio yr Homeopathic Helpline ar 0906 534 3404. Sicrhewch fod eich bocs remedïau cartref yn llawn - mae hyn yn hanfodol mewn salwch aciwt e.e. ffliw, Brech yr ieir, gwenwyn bwyd ac ati, gan y bydd galw am y remedi yn syth bin. Dim bocs? Prynwch un o fferyllfa Helios (bocs glas 36 remedi) neu o fferyllfa Ainsworth's (bocs gwyrdd ‘Mother and Baby’) a chadwch nhw o afael plant bach chwilfrydig!