"Cefais fy nghynghori i fynd at Elin ar adeg yn fy mywyd pan oeddwn angen ffeindio ffordd fwy caredig a chynaladwy o ymdopi gyda chyflyrau iechyd difrifol. 

Roeddwn wedi dioddef anhwylder bwyta ar hyd fy oes.  Pan ddois at Elin yn gyntaf, roeddwn hefyd newydd gael diagnosis o HPV a chelloedd cyn-gancr yn fy nghroth.  Dyma'r clychau argyfwng ddeffrodd fi.  Roedd natur arw y triniaethau confensiynol oedd ar gael yn fy nychryn, felly penderfynais droi at y feddyginiaeth oedd yn gyfarwydd i mi o ddyddiau fy mhlentyndod yn Ffrainc.

Mae Elin yn meddu ar y ddawn amhrisiadwy o fedru gwrando.  Mae hi'n gweithio mewn unsain gyda chi, ei chlaf.  Ers gweithio efo Elin rydw i wedi cael gwared ar yr anhwylder bwyta oedd yn dinistrio fy nghorff ac yn bwyta i mewn i fy mywyd.  Rydw i'n parhau i gael triniaeth homeopathig er mwyn dal ati i ddatod a gwella o orffennol llawn trawma, ond erbyn heddiw mae fy mywyd yn adeiladol ac rydw i wedi llwyddo i ddatblygu perthynnas a hefyd stiwdio greadigol i mi fy hun fel artist annibynnol.  Wrth reswm mae gen i, fel pawb arall, frwydrau bach dyddiol yn dal i fod, ond rydw i'n troedio drwyddyn nhw yn well drwy fod ag ymarferydd dawnus wrth fy ochr, un sy'n fy helpu i ddatblygu ynof fy hun ar y daith yma o iachâd."                                                                                                                                                                                                                                                

Maud

 

 

 

 

"Es at Elin i gael remedi i glirio fy sinus a chlirio hen annwyd, ond sylweddolais reit fuan, trwy allu Elin i brocio dipyn yn hamddenol a chartrefol, fod homeopatheg yn cwmpasu holl fywyd person ac nid dim ond un symptom. Mae'r ffaith i mi gael cyfleu rhai teimladau 'dwi rioed wedi eu rhannu o'r blaen wedi cyfrannu at lwyddiant y driniaeth."

Delyth

 

 

"Cefais broblemau yn dilyn genedigaeth fy ail blentyn, gan i mi gael difrod a phwythau. Yn dilyn cyngor gan fydwraig, cysylltais ag Elin. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i'w ddisgwyl, ac yn wreiddiol roeddwn yn cymryd mai trafod yr un broblem y byddai hi, gan gynnig ateb i hynny. Ond yn hytrach, roedd y cyfle i drafod pethau yn gyffredinol, corff a meddwl, yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei gael erioed o'r blaen.

 

Y canlyniad oedd i mi gael triniaeth ar gyfer y pwythau a hefyd ar gyfer pethau eraill oedd wedi bod yn fy mhoeni, pethau efallai nad oeddwn wedi eu cydnabod o'r blaen; mae homeopathi yn anelu at drin y person cyfan. Dyna a ddigwyddodd i mi, ac o ganlyniad rydw i'n fwy llonydd, ac yn delio â straen yn well."

Essie

 

 

"Des ar ofyn Elin Alaw nifer o flynyddoedd yn ôl pan yn bur wan fy iechyd. Er na wyddwn ar y pryd, y fi oedd ei chlaf cyntaf yn dilyn ei graddio. Yn dilyn ei llwyddiant i'm gwella bryd hynny mae Elin wedi fy nhrin i a'm teulu ar sawl achlysur a hynny mewn modd sensitif, cyfeillgar a phroffesiynol.

 

Cymerais y cyfle i fynychu un o gyrsiau homeopathi Elin yn Nhremadog a chafodd y fath argraff arnai hyd nes i mi barhau i ymddiddori ac astudio'r maes yn fy amser fy hun. Erbyn hyn yr wyf wedi dechrau Cwrs Tystysgrif Homeopathy gyda The Practical School of Homeopathy, Llundain. Gallaf argymell gwasanaeth a gofal Elin fel Homeopathydd yn ddi-os!"

 

Sharon

 

 

"Am gyfnod o bymtheng mis cefais lawer o feddyginiaethau yn cynnwys gwrthfiotigau a steroids i wella fy nghyflwr.  Ond roedd iddynt sgil effeithiau trwblus - pedwar i gyd: cyfnodau o banig, pryder dibaid, cosi ar fy mreichiau a'm coesau a phlyciau anioddefol o or-wres.  Meddyginiaeth homeopathig gennych chi wellaodd y cyflyrau hyn.  Diolch amdanynt.  Maent yn gweithio."

                                                                                                                                                                                                                                                                                 Elfyn