Tra'n cymryd meddyginiaeth – waeth pa fath - mae'n rhesymol ystyried pa ffactorau sy'n debygol o sefyll yn ffordd gwella.  Waeth i ni heb â chymryd meddyginiaeth dda heb wynebu'r problemau wnaeth arwain at y salwch yn y lle cyntaf.

 

Gwaith tîm sydd yma! Bydd Elin yn gwrando ar bob gair ac ystum cyn gwneud presgripsiwn, ond bydd cyfle hefyd i drafod sut medrwch chi wella eich amgylchiadau eich hun ar y llwybr at wella.  Un rhwystr cyffredin ydi'r duedd i fod yn gaeth i siwgr, a gallwn drafod y ffordd orau o gwmpas y broblem, un unigolyn ar y tro.   Gallwn hefyd drafod y dewis mwyaf maethlon o fwyd sydd ar gael yn lleol,  a sut i gyfoethogi eich ffordd unigryw chi o fyw rhwng pob apwyntiad.